Buddsoddi yn nyfodol Cymru
“ Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg ac ar bob graddfa er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol.
Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel, rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau roi cryn ystyriaeth i’r angen i gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol Cymru a’n targed i gynhyrchu 70% o’r trydan a ddefnyddir mewn modd cynaliadwy erbyn 2030 er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”
Cymru’r Dyfodol 2040 (polisi 17)
Ynni Gwyrdd
Bydd y cynigion yn darparu capasiti 400 MW – digon i bweru 108,000 o gartrefi – sy’n cyfateb i gyfanswm y galw o ran pŵer ar gyfer cartrefi Casnewydd a Sir Fynwy gyda’i gilydd. Mae hefyd yn gyfystyr â bodloni cyfanswm y galw am bŵer o 8% o’r 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru.
Adfer Natur
Bydd y cynigion yn ceisio gwyrdroi dirywiad y ffosydd draenio SoDdGA o’u “statws anffafriol” dros gyfnod hir i “statws ffafriol” a sicrhau enillion net bioamrywiaeth i gefnogi amcanion Adfer Natur Cymru. Bydd y cynllun yn gadael gwaddol cadarnhaol i fywyd gwyllt.
Tlodi Tanwydd yng Nghymru
Mae cyfyngiadau byd-eang ar gyflenwadau nwy a achosir gan ryfel yr Wcráin wedi cyfrannu at y cynnydd enfawr mewn prisiau ynni sy’n effeithio ar bob cartref.
Yn ôl amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd hyd at 45% (614,000) o holl aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd, yn dilyn y cynnydd yn y cap prisiau ym mis Ebrill 2022. Amcangyfrifwyd bod hyd at 8% (115,000) ohonynt mewn tlodi tanwydd difrifol. Bydd gwneud y mwyaf o’r ynni a gynhyrchwn yma yng Nghymru yn gwella diogelwch ynni’r wlad, sy’n hollbwysig i atal tlodi tanwydd rhag mynd yn ei waeth.
Diogelwch Bwyd
Newid hinsawdd yw’r prif risg yn y tymor canolig i hir o ran cynhyrchu ynni yn y DU, yn enwedig ar dir isel sy’n debygol o orlifo yn sgil y cynnydd yn lefel y môr. Mae yna bwysau amgylcheddol eraill hefyd fel diraddiad pridd, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. Bydd y fferm solar yn cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â’r effeithiau hyn, yn ogystal â chefnogi 27 o deuluoedd ffermio lleol yn ariannol trwy rent tir. Bydd hefyd yn golygu bod y safle cyfan yn dal i allu cael ei bori gan ddefaid.
Swyddi yng Nghymru
Amcangyfrifir y bydd y cynigion yn cynhyrchu gwaith ar gyfer tua 5,000 o weithwyr a chontractwyr yng Nghymru, yn cynnwys creu tua 200 o swyddi newydd yn sgil busnesau lleol yn ehangu.
Economi Cymru
Amcangyfrifir y bydd £13.5 miliwn yn cael ei gyfrannu at fusnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu.
Buddsoddi yn nyfodol Redwick
Gwefru cerbydau trydan am ddim
Bydd y cynllun yn darparu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan a fydd yn darparu gwasanaeth gwefru am ddim i drigolion lleol gyda thrydan a gynhyrchir yn uniongyrchol o’r fferm solar.
Buddsoddiad hirdymor yn y gymuned
Bydd refeniw o werthu trydan yn cael ei rannu gyda’r gymuned leol, y gellir ei ddefnyddio i ariannu prosiectau lleol a thalu costau ynni. Bydd swm blynyddol o £250,000 yn cael ei ddarparu, sy’n gyfanswm o £10 miliwn dros 40 mlynedd, sef oes y cynllun.