Pam yma?

Mae dod o hyd i safle addas ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy yn her enfawr. Mae dau ffactor allweddol i’w hystyried:

1. Y ffaith ei fod yn agos at y rhwydwaith grid a thrawsyrru, lle mae capasiti ar gael i gysylltu gorsaf gynhyrchu newydd

2. Tir nad yw’n cael ei gyfyngu gan rwystrau polisi cynllunio 

 

1. Cysylltiad grid hyfyw

Mae gan dde-ddwyrain Cymru gyfuniad cymharol brin o’r seilwaith rhwydwaith trydan presennol a chapasiti dro ben ar y llinellau i dderbyn gorsafoedd cynhyrchu newydd.

Seilwaith rhwydwaith presennol

Mae seilwaith trydan wedi’i leoli’n bennaf o amgylch ardaloedd poblog gan fod y rhain yn ardaloedd y mae angen cyflenwad trydan arnynt. O’r herwydd, nid oes gan ardaloedd gwledig ac anghysbell fel y canolbarth y rhwydwaith trydan sydd ei angen i gefnogi prosiectau adnewyddadwy newydd.

Yn gyffredinol, mae’r rhwydwaith trawsyrru wedi’i leoli o amgylch yr ardaloedd lle ceir poblogaeth fawr yn Ne Cymru.

Mae hyn yn lleihau’r ardal chwilio. Wedyn, mae angen dod o hyd i linell drawsyrru gyda’r gallu i dderbyn gorsaf gynhyrchu.

Y gallu i dderbyn gorsafoedd cynhyrchu newydd

Ychydig iawn o leoliadau sydd gan y grid trydan yng Nghymru lle mae capasiti i dderbyn generaduron ynni adnewyddadwy newydd. Yn Ne-ddwyrain Cymru mae’r amgylchiadau lleol wedi creu capasiti ar y rhwydwaith trawsyrru.

Gellir gweld y rhwydwaith trawsyrru ar y map.

Yn y rhan hon o Dde-ddwyrain Cymru, mae capasiti ar y rhwydwaith o ganlyniad i gau nifer o’i diwydiannau trwm dros y 30 mlynedd diwethaf, a oedd yn arfer defnyddio llawer iawn o bŵer o’r grid. Mae cau’r rhain wedi arwain at gapasiti dros ben.

Ar ben hynny, mae cau gorsaf bŵer glo Aberddawan ym mis Mawrth 2020 yn golygu bod capasiti ar gyfer gorsafoedd cynhyrchu glân newydd ar y rhwydwaith. Roedd Aberddawan wedi cynhyrchu 1,560 MW o drydan ar gyfer De Cymru.

2. Ystyried polisi cynllunio

Mae’r map isod yn dangos pob ardal lle mae ‘rhwystrau polisi cynllunio absoliwt’ i ddatblygu ffermydd solar ar y tir, gan gynnwys coetir hynafol, ardaloedd adeiledig, Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae’r ardaloedd sydd ar ôl i’w hystyried mewn gwyn.

Fel y gallwch weld, ychydig iawn o leoliadau sydd o bosibl yn addas ar gyfer gorsaf gynhyrchu newydd. Lleoliad y safle yw’r unig leoliad heb gyfyngiadau polisi cynllunio.

Ardaloedd Lle Na Chaniateir Datblygu Solar yng Nghymru

Pam solar?

Mae newid hinsawdd yn fygythiad i fywoliaeth yng Nghymru ac i’w hamgylchedd naturiol gwerthfawr.

Mae datgarboneiddio’r modd y cynhyrchir ynni yn hanfodol, a dyna pam fod Cymru’n anelu at sicrhau bod 100% o’r trydan a ddefnyddir yn flynyddol yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035.

Mae defnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy fel solar yn gam hanfodol ar y llwybr i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae ffermydd solar yn fath o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei ffafrio o’i gymharu â mathau eraill am sawl rheswm:

Y camau nesaf

Rydym yn y broses gychwynnol o ddatblygu gorsaf cynhyrchu solar Future Energy Llanwern. Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn dechrau ymgynghori ac ymgysylltu’n eang â phobl leol a rhanddeiliaid ar gynigion ein prosiect.

Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl leol a byddwn yn ystyried yr holl adborth wrth i ni ddatblygu’r prosiect. Mae gennym dîm cysylltiadau cymunedol pwrpasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen ‘Cysylltu â ni’.