Cwestiynau Cyffredin

Mae Strategaeth Diogelwch Ynni ddiweddar Llywodraeth y DU ym mis Ebrill 2022 yn galw am darged o hyd at 70 gigawat (GW) o drydan solar erbyn 2035. Mae hon yn her genedlaethol uchelgeisiol, a bydd cyrraedd targed y llywodraeth ar gyfer trydan adnewyddadwy fforddiadwy a gynhyrchir yn y wlad hon yn gofyn am ddarparu prosiectau sydd â chapasiti mawr i gynhyrchu ledled y DU. Byddai fferm solar arfaethedig Future Energy Llanwern yn cyfrannu tuag at y targed hwn.

Mae’r “Adolygiad o Dargedau Ynni Adnewyddadwy Cymru” a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023 yn nodi “mae angen cynnydd o bum gwaith yn y trydan a gynhyrchir yng Nghymru rhwng nawr a 2050, gyda’r rhan fwyaf o’r cynnydd hwn yn ofynnol ar ôl 2030 a chyda chynnydd arbennig o serth. drwy’r 2030au.” Mae’r bwlch rhwng cyflenwad a galw yn tyfu’n sylweddol. Disgwylir i’r galw ddyblu tra bod y cyflenwad wedi bod yn sefydlog ers 2015 oherwydd diffyg cyflawni prosiectau cynhyrchu trydan. Mae’r angen am orsafoedd cynhyrchu newydd i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ yn ddifrifol.

Renewable energy generation and electricity demand graph

Ffynhonnell y graff: Adolygiad o Dargedau Ynni Adnewyddadwy Cymru, Rhif: WG45896, cyhoeddwyd 24 Ionawr 2023

Mae angen amrywiaeth o ffynonellau ynni i gael cyflenwad dibynadwy a diogel o ynni adnewyddadwy. Bydd cynhyrchu gwynt ar y môr yn chwarae rhan bwysig wrth i Gymru symud tuag at ei tharged o 100% o drydan a gynhyrchir o ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Ond dim ond fel rhan o wahanol fathau o ynni sy’n cynnwys ffermydd solar fel Future Energy Llanwern, y gall gwynt ar y môr wneud hynny.

Oherwydd yr amser sydd ei angen i gymeradwyo ac adeiladu fferm wynt alltraeth ar y raddfa sydd ei hangen i fodloni cyflenwad ynni Cymru, byddai hefyd yn anodd cyrraedd targed 2035 gan ddefnyddio’r rhain yn unig. Byddai prosiectau fel Future Energy Llanwern yn cael eu cyflawni erbyn 2035 ac yn hwyluso’r newid i sicrhau cyflenwad o ynni adnewyddadwy i Gymru.

Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Cyngor Sir Fynwy Argyfwng Hinsawdd, with unanimous support from councillors: 

Mae mynd i’r afael â newid hinsawdd yn bwysig iawn, oherwydd os bydd tymheredd y blaned yn codi 2°C rydym yn wynebu risgiau o sychder, llifogydd a thlodi – bydd yn cael effaith enfawr ar gannoedd o filiynau o bobl. Yn Sir Fynwy mae effeithiau’r a allai ddigwydd yn cynnwys tywydd mwy eithafol (fel stormydd), prinder dŵr, sychder, colli rhywogaethau a pherygl llifogydd.”

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn rhan o Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ym mis Chwefror 2021, dadorchuddiodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) ei Gweledigaeth a’i Strategaeth Ynni: partneriaeth rhwng Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i drawsnewid y ffordd y caiff ynni ei gynhyrchu, ei gludo a’i ddefnyddio yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae hyn yn canolbwyntio ar wneud y newidiadau graddol sy’n hanfodol i gyrraedd targedau carbon sero-net erbyn 2050. 

Bydd Future Energy Llanwern yn cyfrannu at gyflenwi ynni glân, adnewyddadwy, ac yn helpu i gyrraedd targedau sero net De Cymru a gwyrdroi effaith newid hinsawdd.

Bydd y prosiect wedi’i leoli yn Sir Fynwy a Chasnewydd ac yn cysylltu ag is-orsaf drydan y Grid Cenedlaethol yn Whitson. Mae’r prosiect yn y broses gychwynnol o ddatblygu’r orsaf, a darperir mwy o fanylion gan gynnwys y lleoliad arfaethedig, ei faint, y trydan a gynhyrchir a’i elfennau storio batri yn ystod y misoedd nesaf pan fydd y prosiect yn cael ei ddatblygu.

Yr unig ffordd i wneud Future Energy Llanwern yn stori solar lwyddiannus yng Nghymru yw sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddatblygu gyda’r gymuned, ar gyfer y gymuned. Mae ein gwaith gyda phobl leol yn siapio dyfodol ein prosiectau ac yn sicrhau bod buddion datblygiadau ynni solar yn cael eu gwireddu mewn ffordd sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau.

 

Er mwyn sicrhau bod trigolion o amgylch y safle yn elwa’n uniongyrchol o’r cynllun, byddwn yn darparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan a fydd yn darparu gwasanaeth gwefru am ddim i drigolion lleol.

Bydd refeniw o werthu trydan yn cael ei rannu gyda’r gymuned leol, y gellir ei ddefnyddio i ariannu prosiectau lleol a thalu costau ynni. Bydd swm blynyddol o £250,000 yn cael ei ddarparu, sy’n gyfanswm o £10 miliwn dros oes y cynllun, sef 40 mlynedd.

Wrth i’r cynigion gael eu llunio dros y misoedd nesaf, byddwn yn ymgynghori â chymunedau lleol ac yn casglu adborth ar sut y gall Future Energy Llanwern gael effaith gadarnhaol yn yr ardal ymhellach.

Ydi yn bendant. Yn ôl arolygon y llywodraeth [1], solar yw’r ffynhonnell ynni fwyaf poblogaidd. Dangosodd data yn 2021 fod 90% o’r cyhoedd yn ei gefnogi. Pan ofynnwyd eu barn ynglŷn ag adeiladu fferm solar yn eu hardal leol, dywedodd 81% o’r ymatebwyr yn 2022 nad oeddent yn gwrthwynebu. Dim ond 3% oedd yn gwrthwynebu’n sylweddol, tra bod 8% yn teimlo na fyddai fferm solar yn ymarferol yn lleol.

Yn sicr, mae solar yn gweithio’n dda ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Gall eisoes gynhyrchu cymaint â 30% o drydan y DU ar wahanol adegau o’r flwyddyn.[2] Ymbelydredd o’r haul, yn hytrach na thymheredd, gwres neu olau haul uniongyrchol, sy’n galluogi paneli PV solar i gynhyrchu trydan. Nid oes angen golau haul uniongyrchol ar baneli solar i weithredu a chynhyrchu pŵer ar hyd y flwyddyn.

Nac ydi. Mae’n dal yn bosibl i dir ffermydd solar gael ei bori a bod o gymorth i ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd ar rannau eraill o’u tir. Mae rhai datblygwyr yn ystyried tyfu cynnyrch o dan y paneli solar neu wrth eu hochr. Yn ogystal â hyn, maent yn darparu incwm gwerthfawr i ffermwyr, gan gefnogi hyfywedd amaethyddiaeth Cymru.

Ddim o gwbl. Mae ynni solar yn darparu rhywfaint o’r trydan rhataf, ac yn llawer mwy fforddiadwy na nwy neu ynni niwclear. Mae’r argyfwng prisiau ynni wedi gwneud yr achos dros ynni solar hyd yn oed yn gryfach.

Oherwydd faint o ynni y byddai’r prosiect yn ei gynhyrchu, caiff ei ddosbarthu fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP). Mae hyn yn golygu, er mwyn cael caniatâd cynllunio i adeiladu a gweithredu’r prosiect, y byddwn yn cyflwyno cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).

 

Byddai’r cais yn cael ei benderfynu drwy system Gynllunio’r DU oherwydd ei faint, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn gyfle i Gymru ddod yn arweinydd ym maes chwyldro ynni gwyrdd. Byddwn yn ymgysylltu ac yn ymgynghori â chynrychiolwyr etholedig a rhanddeiliaid drwy gydol y broses gynllunio.

Os nad yw’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani ar gael ar y wefan, neu os hoffech siarad ag aelod o dîm y prosiect, gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio enquiries@futureenergyllanwern.co.uk.

[1] BEIS PAT Hydref 2021 Seilwaith Ynni a Ffynonellau Ynni (publishing.service.gov.uk)

[2] Briffio | Gwiriwr Ffeithiau (solarenergyuk.org)