Arwain y newid i ynni glân
Am y buddsoddwr
NextEnergy Capital yw un o fuddsoddwyr solar arbenigol mwyaf y byd sy’n cael ei yrru gan ei genhadaeth i arwain y trawsnewid i ynni glân. Ers ei sefydlu yn 2007, mae NextEnergy Capital wedi bod yn weithgar yn datblygu, adeiladu a pherchnogi asedau cynhyrchu solar ledled y byd, gyda’r gallu i gynhyrchu dros 3GW o ynni solar.
Mae NextEnergy Capital yn rhan o’r Grŵp NextEnergy, sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol ar draws cylch oes cyfan ffermydd solar ar raddfa fawr; yn amrywio o reoli buddsoddiadau mewn ynni solar, rheoli’r gwaith o weithredu asedau solar, a datblygiadau solar.
Mae NextEnergy Capital yn rheoli gwerth $ 3.9bn o ynni solar yn fyd-eang, ar ôl naill ai caffael neu adeiladu dros 400 o asedau solar o ansawdd uchel hyd yn hyn.
Mae asedau NextEnergy Capital yn helpu i wynebu newid hinsawdd trwy gynhyrchu trydan glân. Yn yr ardaloedd lle mae’r asedau hyn wedi’u lleoli, mae’r economïau a’r cymunedau lleol yn elwa – gyda hanes o lwyddiant amlwg yn Ne Cymru. Ochr yn ochr â hyn, mae NextEnergy Capital yn hyrwyddo bioamrywiaeth leol, gan drawsnewid seilwaith ynni yn gyfle sy’n rhoi budd i’r amgylchedd.